Cynllun Grant Technoleg Di-Wifr Uwch Uchelgais Gogledd Cymru – EOI
Mae’r Cynllun Grant Technoleg Di-Wifr Uwch yn cynnig cefnogaeth i sefydliadau sy’n gweithredu yng ngogledd Cymru i uwchraddio eu systemau di-wifr uwch, i wella cynhyrchiant ac effeithiolrwydd.
- Opening date:
- Closing date: (Midnight)
Contents
Summary
Mae’r Cynllun Grant Technoleg Di-wifr Uwch wedi'i gynllunio i helpu sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat Gogledd Cymru i uwchraddio neu wella eu defnydd o systemau di-wifr uwch.
Gyda gwelliannau seilwaith digidol ledled ein rhanbarth, y bwriad yw i helpu creu cymunedau cryfach, busnesau mwy arloesol ac economi mwy gwydn.
Mae technolegau di-wifr uwch yn chwyldroi'r ffordd mae busnesau yn gweithredu drwy ddarparu cysyllted cyflymach, mwy dibynadwy a mwy diogel. Yn y cyd-destun hwn, mae technolegau di-wifr uwch yn cynnwys yr ystod lawn o atebion di-wifr a ddefnyddir mewn gwasanaethau cyfathrebu. Er bod rhwydweithiau 5G yn faes allweddol o sylw, rydym hefyd yn cydnabod rôl bwysig Rhyngrwyd y Pethau (IoT), Wi-Fi a chyfathrebu lloeren.
Mae cyfanswm o hyd at £18.8 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael ar hyn o bryd rhwng 2026 a 2030. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru ac mae’n rhaid i brosiectau ddigwydd o fewn y rhanbarth.
Eligibility
Mae'r cynllun grant ar agor i fusnesau a sefydliadau yng ngogledd Cymru sydd yn gallu dangos angen masnachol clir, neu fudd, o brosiect technoleg di-wifr uwch i gefnogi eu gweithrediadau.
Mae'r cynllun yn agored i sefydliadau o bob diwydiant a sector, cyn belled eu bod yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y canllawiau cefnogol.
Er mwyn cymhwyso, rhaid i sefydliadau:
Fod â chyfeiriad busnes a gweithrediadau yng ngogledd Cymru (Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam).
Allu mynd i mewn i Gytundeb Ariannu Grant (GFA) gyda Uchelgais Gogledd Cymru (caniateir ceisiadau ar y cyd ond bydd cytundeb grant gyda un sefydliad arweiniol).
Bod â phrosiect arfaethedig a fydd yn cael ei ddarparu a'i weithredu yng Ngogledd Cymru.
Bod yn fabwysiadwyr/mantaiswyr technolegau di-wifr uwch newydd (nid cyflenwyr sy'n chwilio am gyllid i ddatblygu cynnyrch i werthu).
Gael o leiaf 50% o gyllid cyfatebol ar gael (gweler Adran 1.4.2 o'r ddogfen Canllawiau a gyhoeddwyd ar wefan Uchelgais Gogledd Cymru).
Bod yn ariannol hyfyw, gyda gwybodaeth ariannol ddiweddar a thystiolaeth ar gael, gan ddangos llywodraethu priodol.
Ddangos rheolaeth ariannol a threfniadau sicrwydd, gan gynnwys y gallu i reoli arian cyhoeddus a chyflawni prosiectau cyfalaf. Nid yw costau refeniw yn gymwys.
Ymrwymo i dargedau a chanlyniadau gorfodol y cynllun - gan gynnwys creu swyddi, cynyddu GVA a gwneud gwelliannau mesuradwy i gyfradd cynhyrchu ac effeithlonrwydd.
Ymrwymo i gydymffurfio â gofynion caffael a rheoli cymorth ariannol.
Cytuno i ofynion monitro, adrodd, a gwerthuso am hyd cytundeb ariannu'r grant.
Cwrdd â'r ymrwymiadau amser a chyflawni: gweithgaredd a gyllidir wedi'i gwblhau erbyn 31 Mawrth 2030 gyda gweithrediad y buddion wedi’i cwblhau erbyn 31 Mawrth 2033 (a gweithredu'r dechnoleg newydd am o leiaf dair blynedd ar ôl gweithredu).
Objectives
Mae gan y cynllun grant hwn y nodau canlynol:
Creu rhwng 120 - 200 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru drwy’r prosiect erbyn 2033
Creu GVA net ychwanegol o £41m - £62m drwy’r prosiect erbyn 2033
Cyflawni cyfanswm buddsoddi o rhwng £29.6m a £37.6m drwy’r rhaglen erbyn 2033
Caniatáu i 100-200 o fusnesau a defnyddwyr sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru fanteisio ar gysylltedd diwifr uwch erbyn 2030
Dates
Bydd y ffenestr Datganiad o Ddiddordeb yn agored o 30 Mehefin 2026 - 11 Awst 2026 am 12:00 (canol dydd)
10 Awst am 16:00 fydd y terfyn amser ar gyfer cwestiynau eglurhad am y datganiad o ddiddordeb
Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu wythnos gyntaf Medi 2026
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y calendr yn y ddogfen Canllawiau ar wefan Uchelgais Gogledd Cymru.
How to apply
Mae’r broses ymgeisio yn cynnwys dau gam:
Datganiad o Diddordeb (EOI) - Lle mae ymgeisiwr yn amlinellu cynllun y prosiect, manteision a pharodrwydd i symud ymlaen i gyflwyno.
Cais Llawn - Lle bydd ymgeisiwr a wahoddwyd yn cyflwyno dyfynbrisiau, tystiolaeth, manylion cost a llinellau amser.
Os caiff rhywun ei wahodd i wneud cais llawn, bydd disgwyl i sefydliadau ddilyn Egwyddorion Caffael Uchelgais Gogledd Cymru.
Supporting information
Gweminar Briffio
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn cynnal gweminar briffio ar 14 Gorffennaf 2026 i gyflwyno’r cynllun a thrafod enghreifftiau o ddefnydd diwifr datblygedig. Gallwch gofrestru ar gyfer y gwefan briffio trwy wefan Uchelgais Gogledd Cymru.
Pecynnau Mabwysiadu
Fel rhan o gynllun 'Belfast City Council 5G Innovation Region', datblygwyd Pecyn Mabwysiadu i ddarparu gwybodaeth ymarferol ar sut i fabwysiadu technoleg diwifr datblygedig, enghreifftiau o ddefnydd, a gwybodaeth am ecosystem diwifr datblygedig lleol. Rydym wedi cael caniatâd i rannu'r pecyn i gefnogi buddiolwyr y cynllun hwn:
Cwestiynau Eglurhad
Gellir anfon cwestiynau i digidol@uchelgaisgogledd.cymru erbyn y Dyddiad Cau a nodir yn y Drefn Amser yn Adran 1 o’r Canllawiau.